Amdanom ni

Tony Owen - More Than Beds, BangorCroeso i wefan More Than Beds. Tony Owen ydw i, berchen y siop.  Gyntaf oll, diolch i chi am ymweld â’r wefan ac ystyried ni ar gyfer eich anghenion dodrefn.

Mae hwn yn fusnes teuluol, lleol, yma yng Ngwynedd. Mae gennyf dros 30 mlynedd o brofiad yn y busnes dodrefn. Rydym yn ymfalchïo ar gynnig gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol, dwyieithog i’n cwsmeriaid yma yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cadw dodrefn a gwelyau o safon uchel, ar gyfer gyllidebau ac anghenion gwahanol. Rydym hefyd yn cynnig darpariaeth leol yn rhad ac am ddim ar archebion dros £150.

Rydym yn seiliedig ar y Stryd Fawr ym Mangor, ac yn falch o fod yn fusnes bach yng nghanol y ddinas, ac yn credu bod hyn yn bwysig er mwyn cynnal gwasanaeth da, hen ffasiwn yn y gymuned yr ydym yn byw.

Store front - More Than Beds, BangorMae’r gwefan mond yn rhoi esiampl o’r hyn yr ydym yn cadw yn More Than Beds, gan gynnwys cynhyrchion gan Seconique, Julian Bowen, Sweet Dreams, La Romantica, Durabeds, Highgrove, Birlea a llawer mwy.

Teimlwch yn rhydd i roi galwad ffon unrhyw adeg Dydd Llun-Sadwrn rhwng 9y.b a 5y.h i drafod unrhyw eitem. Methu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano ar y wefan? Rhowch alwad i ni neu galwch mewn i’r siop i weld llawer mwy o welyau a dodrefn ac i edrych dwry ein catalogau.